Rhyfeddod, rhyfeddod,
i Brynwr y byd
Roi ei enaid yn aberth
yn daliad mor ddrud,
I godi pechadur
o ddyfnder ei wae,
A'i ddwyn i ogoniant
byth byth i barâu!
O bellder trag'wyddol
y gwelodd Efe,
Nad oedd gynnorthwywr
i ddyn is y Ne';
Addawodd ei einioes,
fe'i rhoddodd i lawr,
I gadw pechadur;
ei gariad oedd fawr.
Ei ras a'i cymhellodd
yn wyneb y groes,
Ei fraich a'i hachubodd
yn nyfnder ei loes:
Cadd lawn fuddugoliaeth
ar Galfari fryn,
Mewn gwendid gorchfygodd;
ni ganwn am hyn.
Y Gyfraith oedd fanwl
a pherffaith a llym;
Cyfiawnder gofynol
anfeidrol ei rym;
A'r gwaelaf bechadur
truenus ei lun:
Mae digon yn Iesu
i'r rhai'n bob yr un.
Trysorfa Ysbrydol 1799T Charles a T Jones
Tonau [11.11.11.11]: |
A wonder, a wonder,
that the Redeemer of the world
Should give his soul as a sacrifice
as a payment so costly,
To raise a sinner
from the depth of his woe,
And lead him to glory
forever and ever to continue!
From the eternal distance
He saw,
That there was no helper
for man under Heaven;
He pledged his life,
he laid it down,
To save a sinner;
his love was great.
His grace compelled him
in the face of the cross,
His arm saved him
in the depth of his anguish:
He got a full victory
on Calvary hill,
In weakness he overcame;
let us sing about this.
The law was detailed
and perfect and sharp;
Righteousness demanding
immeasurable its force
And the worst sinner
miserable his condition:
Jesus is sufficient
for those, every one.
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|